Pleser oedd i Paul Matthews-Jones (Cadeirydd y Clwb Cefnogwyr) gael cyflwyno siec am £1,350 i Katrina o Dy Gobaith yn ddiweddar. Roedd y siec yn ganlyniad o weithgareddau yn ystod tymor 2010/11 i godi arian tuag at elusen y tymor Arsenal, ac elusennau lleol gan gynnwys Ty Gobaith. Cynhaliwyd taith gerdded i gopa Pen yr Ola Wen o dan arweiniad Garri Hughes yr Is-gadeirydd, ac ocsiwn addewidion yng Nghinio Blynyddol y Clwb nol ym mis Mawrth o dan ofal Mel Williams o Williams & Goodwin – The Property People. Diolch i bawb a fu’n cynorthwyo gyda’r hel. Yn y llun mae Paul Matthews-Jones (Cadeirydd), Katrina o Ty Gobaith, Ty’n y Groes, Conwy, Mel Williams o Williams & Goodwin a Gwynedd Watkin (Ysgrifennydd).

 

English Version

Oriel Lluniau'r Clwb