Rheolau’r Clwb Cefnogwyr ar ôl eu diwygio yng NgCB 2013
- Enw'r Clwb Cefnogwyr fydd Arsenal Gogledd Cymru North Wales.
- Bwriad Clwb Cefnogwyr Arsenal Gogledd Cymru North Wales yw i geisio dod â dilynnwyr Clwb Pêl-droed Arsenal o ardal Gogledd Cymru at eu gilydd i roi’r cyfle iddynt fwynhau profiadau yn ymwneud ag Arsenal. Bydd hefyd yn gyfrifol am ledaenu enw da Clwb Pêl-droed Arsenal yng Ngogledd Cymru.
- Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Clwb Cefnogwyr yn cael ei gynnal rhwng diwedd y tymor pêl-dored a diwedd mis Gorffennaf bob blwyddyn.
- Bydd pob Aelod, a Chlwb Pêl-droed Arsenal, yn derbyn gwahoddiad i fynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol o leiaf 21 diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd angen o leiaf 20 neu dreian, pa un bynnag yw’r nifer isaf, o aelodau’r clwb i fod yn bresennol i ffurfio cworwm
- Etholir Cadeirydd, Ysgrifennydd Cyffredinol, Ysgrifennydd Aelodaeth a Thrysorydd yn flynyddol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ynghyd â 10 Aelod arall i fod ar y Grŵp Llywio.
- Bydd cofnodion o’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ynghyd â’r adroddiad ariannol yn cael eu danfon i Glwb Pêl-droed Arsenal o fewn 6 wythnos i gynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
- Bydd y Grŵp Llywio yn gyfrifol am redeg y Clwb Cefnogwyr ac yn cyfarfod yn ystod y flwyddyn fel y bo angen. Bydd hefyd yn penodi swyddogion o’u mysg ar gyfer y swyddi canlynol:-
Is-gadeirydd
Swyddog Tocynnau gemau cartref
Swyddog Tocynnau gemau oddi cartref
Swyddog Safle’r Ŵe
Swyddog Deunyddiau Arsenal
- Rhaid gwneud cais am docynnau ar gyfer unrhyw gêm i’r swyddog perthnasol o leiaf 9 wythnos cyn dyddiad y gêm. Er mwyn cael gwell cyfle o gael tocyn ar gyfer gemau yn yr Emirates, dylid ei archebu o leiaf 9 wythnos cyn dyddiad y gêm.
- Rhaid i bob cais am docyn gael ei wneud yn enw Aelod o’r Clwb Cefnogwyr.
- Rhaid cynnwys y tâl llawn gydag unrhyw gais am docynnau, neu os nad yw pris y tocyn yn hysbys, blaen-dal o £30 ar gyfer tocyn oedolyn a £10 ar gyfer pensiynnwyr a phlant.
- Mi fydd y tocynnau cyntaf yn cael eu cynnig i berchnogion deiliad yr aelodaeth o Arsenal a alluogodd y swyddog i brynu y tocyn ar ran y Clwb Cefnogwyr, ac yna i Aelodau heb aelodaeth swyddogol o Glwb Pêl-droed Arsenal. Bydd y tocynnau yn cael eu gwerthu i aelodau sydd â’r nifer uchaf o gredydau (gweler rheol 25). Er hynny bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i Aelodau sydd yn gwneud cais am y tro cyntaf yn ystod y tymor cyfredol i gêm gategori B, ac eithrio y 4 gêm olaf yn y Gynghrair ac unrhyw gêm mewn rownd gyn-derfynol neu derfynol o unrhyw gystadleuaeth gwpan.
- Rhaid i bob aelod o dan 16 oed sydd â thocyn fod â rhiant/gwarchodwr sydd hefyd gyda thocyn i fynd i’r gêm.
- Os bydd aelod yn methu mynychu gêm am unrhyw reswm, rhaid i'r tocyn gael ei gynnig i aelod arall o’r Clwb Cefnogwyr. Os na fydd y Clwb Cefnogwyr yn gallu ail-werthu’r tocyn ni fydd yr Aelod a wnaeth y cais gwreiddiol am y tocyn yn derbyn ad-daliad.
- Bydd £5.00 yn cael ei ychwanegu at bris y tocyn i unrhyw berson sydd yn cael tocyn i gêm ac ddim yn Aelod o’r Clwb Cefnogwyr oni bai eu bod yn prynu tocyn sydd dros ben. Bydd rhaid i’r person hwnnw gael tocyn aelodaeth dros dro rhag ofn i stiward ofyn am gael gweld prawf o’i gysylltiad â’r Clwb Cefnogwyr.
- Ni chaniateir ysmygu ar unrhyw daith bws a drefnir gan y Clwb.
- Ni chaniateir yfed alcohol ar unrhyw daith bws a drefnir gan y Clwb.
- Bydd gan y Grŵp Llywio yr hawl i ddileu Aelodaeth unrhyw Aelod sydd yn torri’r rheolau yma neu yn ymddwyn mewn modd amhriodol pan ar deithiau’r Clwb Cefnogwyr, neu os yn defnyddio tocyn a brynwyd trwy’r Clwb Cefnogwyr (gweler rheol 26).
- Gellir galw am Gyfarfod Cyffredinol Arbennig a gaiff ei gynnal o dan yr un amodau â Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol, yn dilyn derbyn cais ysgrifenedig gan o leiaf 8 Aelod o’r Clwb neu ar unrhyw adeg y bydd y Grŵp Llywio yn penderfyny ei fod yn angenrheidiol.
- Os bydd y Grŵp Llywio angen gwneud newidiadau i reolau’r Clwb Cefnogwyr, bydd rhaid eu cofnodi mewn cofnodion o gyfarfod o’r Grŵp Llywio a fydd wedi cyfarfod o leiaf 21 diwrnod cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
- Os bydd Aelod am gynnig newidiadau i reolau’r Clwb, bydd rhaid gwneud hynny yn ysgrifenedig i’r Ysgrifennydd Cyffredinol o leiaf 21 diwrnod cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
- Bydd gostyngiad mewn tâl aelodaeth o £5 i’r Aelodau hynny sydd hefyd yn Aelodau Aur, Arian neu yn Gwnar Iau gyda Chlwb Pêl-droed Arsenal.
- Os bydd y Clwb Cefnogwyr yn trefnu bws i gêm, bydd rhaid i bawb sydd wedi prynu tocyn ac sydd ddim yn teithio ar y bws dalu cyfraniad o £5 tuag at gostau’r bws.
- Bydd hawl gan Aelodau o’r Clwb Cefnogwyr i ddod â gwesteion sydd ddim yn cefnogi Arsenal gyda nhw i wylio gemau Arsenal, oni bai eu bod yn cefnogi’r gwrthwynebwyr ar y diwrnod, neu y buasai o fantais i’r tîm y maent yn ei gefnogi petai Arsenal yn colli i’r gwrthwynebwyr ar y diwrnod hwnnw.
- Pan yn archebu tocyn ar gyfer unrhyw un o 4 gêm olaf Arsenal yn y gynghrair mewn unrhyw un tymor, bydd rhaid tâlu’n llawn am y tocyn wrth ei archebu gyda’r Swyddogion Tocynnau.
- Bydd y Clwb Cefnogwyr yn defnyddio nifer y gemau a fynychwyd yn ystod y tymor diwethaf a’r tymor presennol gan aelodau i sefydlu eu cyfanswm credyd.
- Bydd gan Aelod yr hawl i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad disgyblaeth y bydd y Grwp Llywio wedi ei wneud. Bydd rhaid cyflwyno apêl i’r Ysgrifennydd Cyffredinol o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y llythyr a fydd yn ei hysbysu o benderfyniad y Grwp Llywio.
- Bydd 5 Aelod yn cael eu dewis yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i fod ar gael ar gyfer eistedd ar Banel Apêl. Ni chaiff Aelod o’r Grwp Llywio eistedd ar Banel Apêl. Dewisir 3 allan o’r 5 Aelod i eistedd ar unrhyw Banel Apêl. Bydd yr Ysgrifennydd Cyffredinol hefyd yn bresennol i gofnodi yn unig, ac ni chaiff bleidlais na dylanwadu ar benderfyniad y Panel mewn unrhyw ffordd.
- Ni fydd y Clwb Cefnogwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gostau teithio y bydd aelod wedi gorfod eu talu, os yw’r aelod hynny wedi bod yn aflwyddianus am ba bynnag reswm, wrth geisio prynu tocyn ar gyfer unrhyw gêm trwy’r Clwb Cefnogwyr.